Mair EleanorJONESDymuna Arthur, Olwen a theulu'r ddiweddar Mair Eleanor Jones gynt o Cae Mawr, Trefor ddiolch yn ddiffuant am bob arwydd o garedigrwydd a chydymdeimlad ddangoswyd atynt o golli mam, mam-yng-hyfraith, nain a hen nain annwyl a charedig. Diolch arbennig i'r Hybarch Emyr Wyn Rowlands, Y Parchedig Richard O. Jones a'r organyddes Mrs Olwen Williams am eu gwasanaeth diwrnod yr angladd. Llawer o ddiolch am y rhoddion hael dderbyniwyd tuag at Cartref Y Rhos, Malltraeth, lle derbyniodd ofal ardderchog a Hospis Dewi Sant, Caergybi. Yn olaf, diolch arbennig i Gareth Owen yr ymgymerwr (Griffith Roberts a'i Fab), Preswylfa, Y Fali am drefniadau trylwyr ac urddasol.
Keep me informed of updates